Brawd a chwaer ydi Roat a Heang. Chwech oed ydi Roat ac mae’i chwaer fawr Heang yn dair ar ddeg. Mae nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn chwarae eu hoff gêm efo cardiau sydd â lluniau arnyn nhw. Yr enillydd ydi’r sawl sy’n gorffen efo’r mwyaf o gardiau, ac fel brodyr a chwiorydd ledled y byd, dydyn nhw ddim bob amser yn cyd-dynnu. ‘Dwi ddim isio chwarae mwyach,’ meddai Heang. ‘Mi fydda i bob amser yn colli.’
Colli ac ennill fu hanes y teulu hwn yn Slymiau Phnom Penh yn Cambodia. Mae nhw wedi colli eu tad yn ifanc, ac mae Sophul, eu mam, hithau ar ei gwely angau.
Ond mae nhw hefyd wedi ennill ffrindiau newydd. Erbyn hyn mae na deulu newydd o’u cwmpas nhw: Sarim y nyrs sy’n ymweld bob wythnos; gŵr o’r enw Ee sy’n dod yno i wrando a chynghori; a Pouv sy’n gweddio – pob un yn perthyn i fudiad lleol o’r enw Gweision Tlodion Asia, un o bartneriaid y mudiad Tearfund yn Cambodia.
Mae Sophul, y fam, yn un o’r 42 miliwn o bobl y byd sy’n byw efo HIV/AIDS, a heddiw ar ddiwrnod AIDS y byd, mi allwn ni hoelio ein sylw ar ennill brwydr sydd, yn ôl Nelson Mandela, yn frwydr fwy nag apartheid hyd yn oed.
Un o’r milwyr yn y frwydr hon ydi Channah. Mae hi’n mynd i gartre Sophul bob wythnos yng nghwmni’r nyrs, ac yn mynd ar ei gliniau i helpu i sychu’r chwys oddi ar ei gwyneb. Mae Channah’n wraig gref, siriol ac urddasol ac mae’n rhoi yn rhad o’i hamser i ymweld â phobl sy’n dioddef o AIDS ym mhrif ddinas Cambodia.
Dydi’r gair ‘colli’ ddim yn rhan o eirfa Channah. Er ei bod hithau’n cario’r feirws HIV, mae hi’n benderfynol o ennill ar bob cyfle i roi gobaith a chariad i rai eraill sydd â’r clefyd. ‘Mae arna i eisiau byw mor hir ag sy’n bosib er mwyn helpu’r holl bobl sy mewn cyflwr gwaeth na mi,’ meddai.
Ac efo milwyr fel yna yn y rhengoedd dwi’n siwr fod hon, fel apartheid, yn frwydr y gellir ei hennill. Bore da i chi.