‘Be sy ar bobl, eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n gymwys i wneud pethe sydd ymhell tu hwnt i’w gallu technegol?’ Dyna gwestiwn Tywysog Cymru yr wythnos hon wedi i un o’i staff fynd ag achos yn ei erbyn i dribiwnlys cyflogi.
Wnewch chi ddim ffafr efo neb, medde’r prins, os ydech chi’n twyllo pobl i feddwl y gallan nhw wneud unrhyw beth. Gwell anelu at yr hyn sy o fewn eu cyrraedd.
Beth, felly, fyddech chi’n ei ddisgwyl gan wraig ganol oed ddi-addysg sy’n perthyn i’r caste isaf mewn ardal wledig yn India? Yn ôl trefn y caste, mae Sukhubai yn un o wehilion cymdeithas. Ac fel tase hynny ddim yn ddigon, mi ffeindiodd hi ugain mlynedd yn ôl bod y gwahanglwyf arni. Fe’i taflwyd hi allan ar ei hunion gan ei gŵr a nhwthe ond wedi bod yn briod ers pedwar mis. Ac fel miloedd o wragedd eraill yn y rhan wledig hon o ganolbarth India, bu nifer yn edrych arni fel un o’r ‘untouchables’. Doedd hi ddim hyd yn oed yn cael defnyddio dŵr o’r un ffynnon â’r pentrefwyr eraill.
Pa obaith fydde’r tywysog – a chithe o ran hynny – yn ei roi iddi hi? Ydi hi’n swnio fel rhywun efo prospects?
Rai blynyddoedd yn ôl mi ddechreuodd tim o nyrsus a gweithwyr iechyd ymweld â’r pentref y mae Sukhubai yn byw ynddo. Mi fydden nhw’n sgwrsio, yfed ac eistedd efo hi, gan ddangos parch iddi o flaen y pentrefwyr eraill. O dipyn i beth mi ddaru hynny leddfu ofnau ei chymdogion a chwalu ambell i fyth am y gwahanglwyf. Bellach mae Sukhubai yn rhoi gofal i famau beichiog – cyn ar ar ôl yr enedigaeth. Ie, mae hi rwan yn un o fydwragedd y pentref. Unwaith roedd ei chyflwr yn peri ei bod yn cael ei gweld fel bygythiad i gymdeithas. Bellach mae ganddi swydd urddasol sy’n rhoi bendith i weddill y gymdeithas.
Hwyrach mai un o’r bobl mwya annisgwyl fydd yn llwyddo i newid ychydig ar eich byd chithau heddiw. Bore da i chi.