Erthygl i’r Goleuad gan Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nhgymru, yn seiliedig ar erthygl gan Jo Hill yn Tear Times, rhifyn gaeaf 2004.
Diemwntiau yn disgleirio o’r llwch
Mewn pentrefi diarffordd yn Maharashtra, gorllewin India, mae chwyldro tawel yn digwydd.
Mae merched anllythrennog yn arbed bywydau; ymhlith y bydwragedd mae merched â’r gwahanglwyf arnynt; mae rhai a fu’n ceisio gwneud amdanynt eu hunain bellach yn cofleidio bywyd newydd.
Merched yw’r rhain o’r grwpiau mwyaf distadl mewn cymdeithas – y rhai y sathrwyd arnynt, y rhai a gafodd gam. Ond bellach maent yn ‘ddoctoriaid’ yn eu hawl eu hunain. Nid gwragedd tŷ di-lais a gwrthodedig mohonynt mwyach.
Daeth phenomenon newydd i fod: gweithwyr iechyd y pentref, neu yn hytrach – arwyr y pentref.
Derbyn eich statws, ac anghofio unrhyw uchelgais. Derbyn bod gwragedd yn werth dim a merched newydd-anedig yn felltith ar y teulu. Lladd eich merch yn hytrach nag ymdopi â bod yn feichiog y tu allan i briodas. Cau allan pobl sydd â chlefydau. Erthylu merched.
Dyna rai o’r credoau brawychus sydd wedi gwreiddio yn rhai o ardaloedd mwyaf diarffodd India. Mae baich arferion eithafol wedi parlysu pobl, yn arbennig merched, mewn gorthrymder a thlodi ers canrifoedd.
Yn hanesyddol mae statws isel merched yn gysylltiedig â thraddodiad y cast sy’n rhoi anrhydedd uwch i ddynion, ac yn creu hierarchiaeth a oedd yn wreiddiol yn gwahannu pobl yn ôl lliw eu croes, eu gallu economaidd neu eu galwedigaeth. Arferid glaw pobl y cast isel yn bobl na ellid eu cyffwrdd - yr ‘untouchables’ – ymadrodd sy’n anghyfreithlon ers 1949. Ond erys rhai o’r hen gredoau dinistriol.
‘Roeddem fel diemwntiau wedi ein claddu yn y llwch, ond bellach fe’n cafwyd yn disgleirio,’ medd Lalanbai Kadam sydd wedi ei hyfforddi fel gweithwraig iechyd yn ei phentref.
Fe’i magwyd hithau fel un o’r gwrthodegig, a chai hi ddim defnyddio dŵr o’r un ffynnon â phentrefwyr eraill.
Ond bellach mae hi’n un o fyddin o weithwyr sydd wedi creu cymunedau iachach mewn dros 400 o bentrefi yn ardaloedd Ahmednagar, Beed ac Osmanabad yn Maharashtra.
Yn y pentrefi hyn, mae cysylltiad clos rhwng iechyd y cartref ac addysg merched. Nhw sy’n gyfrifol am gadw’r plant yn lân, coginio, golchi llestri a dillad a nôl dŵr.
Felly mi benderfynodd partner Tearfund – CRHP (Comprehensive Rural Helath Project) – godi statws merched yn y gymuned a herio agweddau drwy roi addysg iechyd i’r grwpiau oedd wedi eu hanwybyddu fwyaf: yr anllythrennog, y gweddwon, y rhai oedd yn dioddeb clefydau a’r rhai gafodd eu camdrin.
Maent yn chwalu daliadau negyddol y sustem cast sydd wedi gwreiddio yn ddwfn ym meddyliau pobl. Ac maent yn dysgu pobl sut mae cariad Duw yn cynnwys pawb.
Bu Sukhubai yn sengl ers ugain mlynedd er pan ddarganfu ei gŵr bod y gwahanglwyf arni. Fe’i taflwyd hi allan ar ei hunion a hwythau ond wedi bod yn briod ers pedwar mis. Rai blynyddoedd yn ôl mi ddechreuodd tim o nyrsus a gweithwyr iechyd ymweld â’r pentref y mae Sukhubai yn byw ynddo. Mi fydden nhw’n sgwrsio, yfed ac eistedd efo hi, gan ddangos parch iddi o flaen y pentrefwyr eraill. O dipyn i beth mi ddaru hynny leddfu ofnau ei chymdogion a chwalu ambell i fyth am y gwahanglwyf. Bellach mae Sukhubai yn rhoi gofal i famau beichiog – cyn ar ar ôl yr enedigaeth. Ie, mae hi rwan yn un o fydwragedd y pentref. Unwaith roedd ei chyflwr yn peri ei bod yn cael ei gweld fel bygythiad i gymdeithas. Bellach mae ganddi swydd urddasol sy’n rhoi bendith i weddill y gymdeithas.