Press releases Press releases
Press release archive Press release archive
World news World news
Darfur Darfur
Asia earthquake Asia earthquake
Tsunami update Tsunami update
Cymru (Welsh) Cymru (Welsh)
 Apêl Argyfwng Deheudir Affrica
 Galwad ar eglwysi yng Nghymru i gyfrannu wrth i argyfwng bwyd Deheudir Affrica waethygu
 Ymateb Tearfund i'r argyfwng
 Cymorth cyflym i ddioddefwyr y tsunami
 Erthygl i'r Goleuad, Rhagfyr 2004
 Cristnogion Cymru’n codi mwy na £202,000 ar gyfer Apêl Argyfwng y Swdan
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Newid yn yr hinsawdd: Arbenigwr i ddarlithio ym Mangor
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 1af 2003
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 29ain 2003
 Eglwysi’n helpu Maasai Kenya i sicrhau dyfodol gwell
Tear Times online Tear Times online
Zimbabwe emergency appeal Zimbabwe emergency appeal
Africa food crisis Africa food crisis
Myanmar (Burma) emergency appeal Myanmar (Burma) emergency appeal

Galwad ar eglwysi yng Nghymru i gyfrannu wrth i argyfwng bwyd Deheudir Affrica waethygu

Mae eglwysi yng Nghymru’n cael eu hannog i gefnogi apêl argyfwng am gefnogaeth i’r elusen Gristnogol Tearfund, gan fod dros 11 miliwn o bobl ar draws Deheudir Affrica yn wynebu prinder bwyd difrifol.

Dywed Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nghymru, fod partneriaid Tearfund yn y rhanbarth yn pryderu y bydd yr argyfwng yn gwaethygu yn y misoedd nesaf oni bai fod y gymuned ryngwladol yn gweithredu ar frys. 

“Mae Tearfund yn gofyn i eglwysi yng Nghymru i gyfrannu arian, ac hefyd i weddio,” medd Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nghymru. “Y tro diwethaf y digwyddodd hyn, anfonwyd llawer o gymorth rhyngwladol ac arbedwyd trychineb.”

Cafwyd gwybodaeth gan Raglen Fwyd y Cenhedloedd Unedig ynglŷn â’r niferoedd sydd o dan fygythiad yn y gwledydd lle mae’r argyfwng ar ei waethaf: Malawi (4.6 miliwn); Zambia (1.7 miliwn) a Zimbabwe (3-5 miliwn).  Diffyg glaw yw’r achos pennaf ar draws y rhanbarth, ond gwreiddiau’r argyfwng yw tlodi tymor hir, gwendid mewn iechyd ac amaethyddiaeth o ganlyniad i HIV ac AIDS, diffygion gwleidyddol a ffactorau economaidd megis rhyddfrydoli masnach. Y gwledydd eraill sy’n dioddef yw Mozambique, Lesotho a Swaziland.

Medd Victor Mughogho (35), Cyfarwyddwr Dyngarol yr enwad Living Waters yn Malawi, ac un o bartneriaid Tearfund: “Mae hi’n wir argyfwng yn rhanbarth ddeheuol Chikwawa ble’r ydym ni’n gweithio. Mewn rhai llefydd mae cymaint â 70% o deuluoedd yn brin o fwyd. Ni wyddom sut fyddant yn goroesi dros y misoedd nesaf.”
Mae Tearfund yn barod wedi rhyddhau cyfanswm o £1.5 miliwn i’w bartneriaid Cristnogol yn y rhanbarth ac mae cymorth yn cyrraedd rhai miloedd o deuluoedd. Byddant yn dosbarthu hyd yn oed mwy o fwyd argyfwng dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, yn ogystal â hadau y bydd angen eu plannu’n syth ar gyfer y cynhaeaf nesaf ym mis Ebrill.

Medd Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nghymru: “Ni ellir gor-ddweud faint o frys sydd i estyn cymorth i’r rhanbarth. Mae angen cymorth bwyd ar bentrefwyr i’w cadw’n fyw ac yn iach hyd at y cynhaeaf nesaf. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i helpu pobl i wella eu bywydau y tu hwnt i’r argyfwng hwn, er enghraifft, drwy ganfod ffyrdd newydd o amaethu a fydd yn cynhyrchu gwell cnydau.”

Gweddwon a phobl sydd â HIV ac AIDS yw nifer o’r bobl sy’n dioddef gyntaf yn yr argyfwng bwyd hwn.Yr wythnos diwethaf bu’n rhaid i Wizaki Joseph, (47), gladdu ei ferch 21 oed, Serena. Doedd y fam i ddau o blant, a hithau wedi cael ysgariad, ddim yn gallu dal dau pen llinyn nghyd wrth i brinder bwyd afael yn gryfach yn ne Malawi. Yn y diwedd aeth ar ei chythlwng er gwaethaf yr uwd dyfriog yr erfyniodd ei theulu amdano gan gymdogion ym mhentref Fombe, yn rhanbarth Chikwawa. Mae Wizaki a’i wraig Esnat bellach yn gofalu am ddau blentyn bach Serena, a hwythau ond yn bump a saith mis oed.

Medd Wizaki: “Rwy’n hen, ac nid yw fy nghoesau’n gweithio cystal, felly alla i ddim dod o hyd i waith mewn pentrefi eraill. Mae fy nheulu’n dibynnu ar berthnasau i roi uwd i ni. Wn i ddim beth fydd yn digwydd i fy nheulu. Os na ddaw’r glaw, byddwn yn marw.”

Mae Apêl Tearfund ar gyfer Deheudir Affrica’n cael ei lansio heddiw, dydd Iau Tachwedd 24. Gellir gwneud cyfraniadau drwy gerdyn credyd drwy ein gwefan, www.tearfund.org

 
Nodyn i’r Golygydd 
Mae lluniau diweddar (wedi eu cymryd ar 14-22 Tachwedd) yn Malawi a Zambia ar gael gan Tearfund. Mae siaradwyr ar gael gan Tearfund ar gyfer cyfweliadau.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:  
Siôn Meredith, Rheolwr Tearfund yng Nghymru: 01970 626006 (swyddfa) neu 07977 215340

This page was last updated on 25 November 2005

Bookmark with:

Post this story to DeliciousDelicious     Post this story to DiggDigg     Post this story to redditreddit     Post this story to FacebookFacebook     Post this story to StumbleUponStumbleUpon

We are Christians passionate about the local church bringing justice and transforming lives - overcoming global poverty.
So our ten-year vision is to see 50 million people released from material and spiritual poverty through a worldwide network of 100,000 local churches.

Tearfund is registered charity number 265464     Email: enquiries@tearfund.org     Tel: 0845 355 8355 (ROI: 00 44 845 355 8355)