Press releases Press releases
Press release archive Press release archive
World news World news
Darfur Darfur
Asia earthquake Asia earthquake
Tsunami update Tsunami update
Cymru (Welsh) Cymru (Welsh)
 Apêl Argyfwng Deheudir Affrica
 Galwad ar eglwysi yng Nghymru i gyfrannu wrth i argyfwng bwyd Deheudir Affrica waethygu
 Ymateb Tearfund i'r argyfwng
 Cymorth cyflym i ddioddefwyr y tsunami
 Erthygl i'r Goleuad, Rhagfyr 2004
 Cristnogion Cymru’n codi mwy na £202,000 ar gyfer Apêl Argyfwng y Swdan
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Newid yn yr hinsawdd: Arbenigwr i ddarlithio ym Mangor
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 1af 2003
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 29ain 2003
 Eglwysi’n helpu Maasai Kenya i sicrhau dyfodol gwell
Tear Times online Tear Times online
Zimbabwe emergency appeal Zimbabwe emergency appeal
East Africa food crisis East Africa food crisis
India floods India floods
Myanmar (Burma) emergency appeal Myanmar (Burma) emergency appeal

Newid yn yr hinsawdd: Arbenigwr i ddarlithio ym Mangor

Bydd arbenigwr byd-eang yn rhoi darlith gyhoeddus o dan nawdd y mudiad dyngarol Cristnogol Tearfund ym Mangor nos Wener 7 Tachwedd 2003. Bydd Syr John Houghton yn dangos effaith newidiadau yn yr hinsawdd ar rai o wledydd tlotaf y byd. 

"Mae’n fraint cael arbenigwr o fri i siarad ar y mater pwysig hwn yng Ngogledd Cymru," medd Trefnydd Ardal Tearfund Miriam Evans. "Rydym ni yng Nghymru yn cyfrannu at gynhesu'r hinsawdd ac mae hynny’n effeithio ar rai o bobl dlotaf y byd. Mae angen i ni ganfod sut i newid ein ffordd-o-fyw er budd pawb."

Mae Cymru yn barod yn cael ei hystyried yn un o arweinwyr gwyrdd y byd, fel un o dair gwlad sydd â chynllun sy’n rhoi gorfodaeth gyfansoddiadol arni i fesur popeth â wna â llinyn mesur cynaladwyedd. Daw’r ddarlith yn nghanol cyfnod ymgynghori'r Cynulliad ynglŷn â’r cynllun hwn. "Rwy’n gobaithio y bydd y ddarlith yn helpu pobl i ddysgu am y mater tyngedfennol hwn fel y byddant yn gallu ymateb yn well i ymgynghoriad y Cynulliad," medd Siôn Meredith, Rheolwr T yng Nghymru.

Mae Syr John Houghton yn gyn Brif Weithredwr y Swyddfa Dywydd ac mae bellach yn aelod o’r Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd. Cynhleir y ddarlith ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor am 7.30pm, nos Wener 7 Tachwedd 2003. Mynediad am ddim.

"Mae Tearfund yn bryderus iawn ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar bobl dlawd," medd Swyddog Polisi Cyhoeddus Tearfund Sarah Le Trobe, awdur y papur polisi Climate Change and Poverty. "Pryderwn y bydd y newid yn yr hinsawdd yn peri trychinebau mwy cyson a mwy difrifol yn yr unfed ganrif ar hugain, ac rydym yn helpu cymunedau tlawd i baratoi ar eu cyfer."

22/10/03

 
Gwybodaeth i Olygyddion 
  1. Syr John Houghton yw Cyd-gadeirydd Gweithgor Asesiad Gwyddonol y Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd ac mae’n gyn Brif Weithredwr y Swyddfa Dywydd. Mae Syr John yn ysgrifennu ac yn darlithio yn helaeth ar y berthynas rhwng y ffydd Gristnogol a materion amgylcheddol.
  2. Gellir archebu’r papur polisi cyhoeddus Climate Change and Poverty gan Tearfund ar 01970 626006.
  3. Tearfund yw un o brif fudiadau dyngarol Gwledydd Prydain ac Iwerddon, yn gweithio mewn partneriaeth ag eglwysi ac asiantaethau Cristnogol o amgylch y byd i ymdrin ag achosion a chanlyniadau tlodi. Am ragor o wybodaeth am waith Tearfund, ewch i www.tearfund.org.

This page was last updated on 08 October 2004

Bookmark with:

Post this story to DeliciousDelicious     Post this story to DiggDigg     Post this story to redditreddit     Post this story to FacebookFacebook     Post this story to StumbleUponStumbleUpon

We are Christians passionate about the local church bringing justice and transforming lives - overcoming global poverty.
So our ten-year vision is to see 50 million people released from material and spiritual poverty through a worldwide network of 100,000 local churches.

Tearfund is registered charity number 265464     Email: enquiries@tearfund.org     Tel: 0845 355 8355 (ROI: 00 44 845 355 8355)