Press releases Press releases
Press release archive Press release archive
World news World news
Darfur Darfur
Asia earthquake Asia earthquake
Tsunami update Tsunami update
Cymru (Welsh) Cymru (Welsh)
 Apêl Argyfwng Deheudir Affrica
 Galwad ar eglwysi yng Nghymru i gyfrannu wrth i argyfwng bwyd Deheudir Affrica waethygu
 Ymateb Tearfund i'r argyfwng
 Cymorth cyflym i ddioddefwyr y tsunami
 Erthygl i'r Goleuad, Rhagfyr 2004
 Cristnogion Cymru’n codi mwy na £202,000 ar gyfer Apêl Argyfwng y Swdan
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Dweud eich dweud Radio Cymru
 Newid yn yr hinsawdd: Arbenigwr i ddarlithio ym Mangor
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 1af 2003
 Dweud eich dweud Radio Cymru - Rhagfyr 29ain 2003
 Eglwysi’n helpu Maasai Kenya i sicrhau dyfodol gwell
Tear Times online Tear Times online
Zimbabwe emergency appeal Zimbabwe emergency appeal
East Africa food crisis East Africa food crisis
Myanmar (Burma) emergency appeal Myanmar (Burma) emergency appeal

Ymateb Tearfund i'r argyfwng


Mae gwaith cymorth brys mwyaf Tearfund erioed wedi cychwyn yn Ne Asia. Gallwch ddarllen yma am ymateb Tearfund i’r drychineb fesul gwlad.

Diweddarwyd ar 20/01/05
 

INDONESIA

Bywydau a gollwyd: Dros 160,000.

Y sefyllfa ar hyn o bryd: Mae glawogydd monswn ac ansefydlogrwydd gwleidyddol yn rhwystro ymdrechion i fynd â chymorth brys i’r rhan fwyaf o ardaloedd diarffordd.

Ymateb Tearfund:

  • Mae Tearfund yn ymuno â mudiadau eraill i lawnsio ymateb ar raddfa fawr, er mwyn rhoi lloches i bobl a helpu i adfer bywoliaeth pysgotwyr.
  • Mae timau gwirfoddol o eglwysi lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd â bwyd a meddyginiaeth i’r rhai sydd mewn angen.


SRI LANKA

Bywydau a gollwyd: Dros 30,000.

Sri Lanka
Sri Lanka
Y sefyllfa ar hyn o bryd: mae cymorth yn cyrraedd bron bob ardal. Rhaid i wersylloedd a sefydlwyd mewn ysgolion gau fel y gall yr ysgolion ail agor. Mae plant yn dal i wynebu’r perygl o gael eu cipio

Ymateb Tearfund:

  • Mae Leads, rhan o Gynghrair Efengylaidd Sri Lanka, yn rhoi cymorth brys i dros 9,000 o deuluoedd: bwyd, dŵr, lloches.
  • Mae Leads yn cychwyn rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr mewn naw gwersyll i ofalu am y rhai sydd mewn galar ac wedi dioddef gwewyr.


INDIA

Bywydau a gollwyd: Dros 13,000.

Y sefyllfa ar hyn o bryd: Mae cymorth yn cyrraedd pobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd . Mae pobl yn awyddus i ddychwelyd i’w cartrefi, ond mae angen cefnogaeth arnynt.

Ymateb Tearfund:

  • Mae partneriaid Tearfund Eficor, y Discipleship Centre a Chymdeithas Ysbyty  Emmanuel yn cydweithio ar eu hymdrechion dyngarol.
  • Mae hyn yn cynnwys darparu bwyd dyddiol, dŵr, cymorth meddygol a phecynnau argyfwng ar gyfer hyd at 40,000 o deuluoedd.


YNYSOEDD INDIA (YNYSOEDD ANDAMAN A NICOBAR)

Bywydau a gollwyd: Hyd at 6,000.

Y sefyllfa ar hyn o bryd: Cafodd caeau eu difetha gan ddŵr hallt. Cafodd glanfeydd a phentrefi pysgota eu dinistrio’n llwyr.

Ymateb Tearfund:

  • Mae partner lleol Tearfund, y Pwyllgor Cydlynu Argyfngau, wedi sefydlu dau wersyll dyngarol sy’n cael eu rhedeg â chymorth gwirfoddolwyr o eglwysi lleol.
  • Y flaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf fydd adfer cartrefi a bywoliaeth pobl.
 

This page was last updated on 25 January 2005

Bookmark with:

Post this story to DeliciousDelicious     Post this story to DiggDigg     Post this story to redditreddit     Post this story to FacebookFacebook     Post this story to StumbleUponStumbleUpon

We are Christians passionate about the local church bringing justice and transforming lives - overcoming global poverty.
So our ten-year vision is to see 50 million people released from material and spiritual poverty through a worldwide network of 100,000 local churches.

Tearfund is registered charity number 265464     Email: enquiries@tearfund.org     Tel: 0845 355 8355 (ROI: 00 44 845 355 8355)