Dod â bywyd yn ei holl gyflawnder i bobl dlotaf y byd, dyna yw pwrpas Tearfund. Ac fe garem i chi fod yn rhan o’r gwaith hefyd. Mae eich doniau, eich diddordebau a’ch cysylltiadau yn unigryw i chi, ac fe gewch foddhad o wybod cymaint o les fedrwch chi ei wneud wrth wirfoddoli dros Tearfund.Ond gyda dyddiadur llawn, oes gennych chi amser i wirfoddoli dros Tearfund?
Mae’r dewis i chi
Gŵyr Tearfund eich bod yn brysur. Dyna pam mai chi sy’n penderfynu pa faint o amser y gallwch ei roi. Does dim pwysau arnoch i wneud mwy na hynny. Ac fe allwch ddewis beth yr hoffech ei wneud – mae dewis o fwy na phymtheg swydd wirfoddol.. Byddwch yn synnu pa wahaniaeth y gallwch ei wneud – hyd yn oed os yw’n edrych yn fychan i chi. Mae manylion rhai swyddi gwirfoddol wedi eu rhestru yn Saesneg yn unig (cliciwch yma).