Cwyrlen am eich Cinio

Gan Fiona Michael

Flwyddyn yn ôl fe benderfynais wneud newid bychan sydd wedi agor y drws ar fyd newydd i mi! Ro’n i wedi dod yn fwyfwy ymwybodol mod i’n taflu llawer o blastig wrth glirio’r bocsys bwyd bob nos.

Fy Llw Plastig i oedd dechrau defnyddio cwyrlenni (beeswax wraps) yn lle bagiau rhewgell a chlingffilm i lapio brechdanau bocsys bwyd y teulu.

Pan brynais i’r pecyn cyntaf ro’n i braidd yn amheus a fydden nhw’n gweithio neu beidio. Ond cyn pen dim ro’n i wrth fy modd! Cwyrlenni yw’r ffordd ymlaen i’n teulu ni. Hyd y gwn i, fy mhlant i yw’r unig rai yn yr ysgol sy’n mynd â brechdanau mewn cwyrlenni (ond maen nhw’n eitha balch o hynny, medden nhw) Mae gen i lein fach i’w hongian uwchben sinc y gegin – maen nhw’n sychu’n dda ac yn hawdd eu storio.

Fe ddewisais i brynu’r cwyrlenni cyntaf gan fusnes lleol ond erbyn hyn rwy’n arbed arian trwy eu gwneud fy hunan. Dydw i ddim yn prynu’r defnydd – rwy’n defnyddio darnau cotwm sydd o gwmpas y tŷ (hen grys glân ar hyn o bryd) ac yn cadw’r gweddill i wneud dysters. Gallwch ddefnyddio rhai mawr i lapio torth o fara neu blât cinio a gallwch eu rhoi yn yr oergell neu’r rhewgell. Ar ddiwedd eu hoes, gallwch eu compostio. Mae fy rhai i gen i ers blwyddyn ac maen nhw'n dal i weithio'n dda.

Rwy’n defnyddio llawer iawn yn llai o blastig wrth ddefnyddio cwyrlenni bum diwrnod yr wythnos. Mae angen i fi fynd i’r afael â materion eraill o hyd – er enghraifft, pacedi creision. Dydi rheiny ddim yn fioiddiraddiadwy ond maen nhw'n mynd i'r bocsys bwyd gyda'r cwyrlenni – dwi ddim yn hapus â hynny

Rwy’n byw mewn rhan hardd o’r Gymru wledig. Rwy wrth fy modd yn cerdded llwybr yr arfordir ac ar y traethau gan ryfeddu at harddwch creadigaeth Duw bob dydd. Rwy’n awyddus i ofalu am y ddaear ac rwy’n annog fy mhlant i wneud hynny hefyd. Rhaid i mi gyfaddef, rydyn ni’n dal i gynhyrchu cryn dipyn o wastraff! Ond os gwnawn ni’n gorau, gall ein Llw Plastig wneud gwahaniaeth.