Hiraeth

Cymraeg ydy mamiaith Susan, sy’n gefnogwr Tearfund, a bu’n gwirfoddoli’n ddiweddar gyda Tearfund Go yn ymweld â phartneriaid yn Sambia. Fe gawson ni sgwrs â hi wedi iddi ddychwelyd adre i Gymru i glywed am ei phrofiad.

Er y bu Susan yn Sambia ym 1992, roedd hi’n gyffrous i weld gwaith Tearfund drosti’i hun a sut mae’r wlad wedi newid ers ei hymweliad gyntaf.

Treuliodd tîm Susan fis yn gwirfoddoli ochr yn ochr â phartner Tearfund, Jesus Cares Ministries (JCM), sy’n gweithio i alluogi’r cymunedau tlotaf ledled Sambia trwy gyfrwng pedwar prif faes: plant y stryd, merched bregus, cefnogaeth i ysbytai a darpariaeth i ysgolion. Fe fuon nhw’n ymweld â gweithdai lle’r oedd pobl ifanc yn cael eu hyfforddi i wneud gwisgoedd, cynnal a chadw cerbydau, cyfrifiadura a gwaith coed, dysgu sgiliau er mwyn medru sefydlu busnesau’u hunain.

Ond yn ôl Susan, fe gymerodd y daith dro cynffon bach annisgwyl.

‘Cymraeg ydy fy mamiaith. Fe ges fy magu yn Cross Hands in the 1950au, lle’r oedd pawb yn siarad Cymraeg,’ eglura Susan. Bu hi a’i gŵr yn byw yn Dundee am bron i 40 mlynedd, ond yn dal i siarad Cymraeg â’i gilydd – iaith eu mamwlad. Wedi ymddeol, symudodd y ddau’n ôl i dde Cymru. ‘Ers i ‘ngŵr i farw, dydw i ddim yn siarad cymaint o Gymraeg ag y bues i,’ meddai Susan.

‘Roedd wyth ohonon ni o bob rhan o’r DU,’ ychwanegodd Susan, ‘ac roeddwn i wrth fy modd canfod bod siaradwr Cymraeg arall ar y tîm!’ Roedd llawenydd Susan yn amlwg wrth iddi esbonio bod medru sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg arall yn Sambia yn brofiad mor hyfryd.

Gall teithio tramor fod yn brofiad heriol ac eto, llwyddodd Susan i ganfod modd o gysylltu ag eraill trwy rannu am iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru. Bu’r grŵp ar ymweliad â gwasanaethau eglwys canol wytnos, lle’r traddodir y bregeth yn Saesneg ac yna’r iaith frodorol.

‘Fe deimlais hi’n fraint addoli gyda’r bobl yn Sambia. Roedd hi’n braf bod ymysg cymaint o Gristnogion awyddus a chael mwynhad o rannu’u brwdfrydedd. Fe ges i flas ar y gwasanaethau mewn dwy iaith, gan bod seibiant rhwng pob datganiad, gan roi cyfle i rywun fyfyrio ar y neges. Cefais hyd yn oed gyfle i rannu am y diwygiad yng Nghymru, fel modd o annog yr eglwys yno.’

Mae calon pob Cymro a Chymraes yn gwybod beth ydy ystyr hiraeth a’r hyn mae’n ei olygu inni. Fel Cristnogion, rydyn ninnau’n rhannu’r hiraeth hwnnw am i bethau fod fel ag yr oedden nhw unwaith yn Eden, am adferiad i’r byd. Profiad Susan oedd teithio 5,000 o filltiroedd i Sambia i ganfod y cysur hwnnw, y llawenydd hwnnw o rannu addoliad gyda ffrindiau newydd, rhannu cariad dros bobl a rhannu iaith.

Mae Susan yn bositif iawn ynghylch gwirfoddoli gyda Tearfund Go. ‘Faswn i wrth fy modd cael mynd eto petawn i’n cael y cyfle,” meddai. “Fy neges innau i bobl hŷn ydy mai ganddyn nhw’r mae’r profiad a’r doniau sydd wedi’u meithrin dros y blynyddoedd ac alla i ddim meddwl am ffordd well o’u defnyddio na chymryd rhan gyda thîm Tearfund Go.’

Wnawn ni fyth roi’r gorau i ymchwilio, a diwedd ein holl ymchwil fydd cyrraedd lle wnaethon ni gychwyn a nabod y lle am y tro cyntaf.

TS Eliot

Os gawsoch chi eich ysbrydoli gan hanes Susan, ewch draw at Gwefan Tearfund Go i weld ein cyfleoedd diweddaraf i fynd dramor.